Therapydd Iaith a Lleferydd Arbenigol Iawn (cyfwerth â Band 7)

Posted 05 Nov 2026

Cygnet Group

Corwen (Nursing)


Job Type:permanentDuration:
Category:NursingRecruiter Reference:JR4139
URL for Applications:Apply HereSalary:Hyd at 50,632 - £ 57,940 yn ddibynnol ar brofiad

Helping others improve and turn their lives around – there’s no better feeling. It’s what we do for thousands of people at more than 150 sites across the UK. Be a part of it.

Therapydd Iaith a Lleferydd Arbenigol Iawn (cyfwerth â Band 7)

Hyd at 50,632 - £ 57,940 yn ddibynnol ar brofiad

Contract parhaol, llawn amser

Lleoliad: Cygnet Afon Las


Yn sgil agor gwasanaeth newydd, mae cyfle cyffrous ar gael i Therapydd Iaith a Lleferydd Arbenigol ymuno â’n tîm!


Mae Cygnet Afon Las yn wasanaeth newydd sbon a fydd yn agor ym mis Ebrill 2027. Mae’r ysbyty 15 gwely hwn wedi’i leoli yng Nghorwen, Sir Ddinbych, a bydd yn darparu gwasanaeth niwrowybyddol a gofal a chymorth arbenigol i ddynion â chyflyrau niwrolegol cymhleth ochr yn ochr â chanlyniadau seiciatrig. Bydd y gwasanaeth yn derbyn atgyfeiriadau gan y gymuned yn ogystal â gwasanaethau niwrolawfeddygol a niwroadsefydlol, gan gynnig llwybr ar gyfer asesu, rhoi triniaeth ac adfer yn unol â Model Gofal Cygnet. Efallai y bydd unigolion yn cael eu cadw dan y Ddeddf Iechyd Meddwl ac efallai y bydd gan rai ohonynt hanes fforensig.


Y Swydd

Fel Therapydd Iaith a Lleferydd yn y gwasanaeth hwn, byddwch yn gweithio’n uniongyrchol â llwyth achosion arbenigol o gleifion ag anghenion cymhleth, gan asesu eu hanghenion iaith, lleferydd a chyfathrebu (SCLN), yn ogystal â’u hanghenion bwyta, yfed a llyncu (EDS). Byddwch yn gweithio ac yn rhoi mewnbwn yn unol â Llwybr SLT Cygnet ar gyfer gwasanaethau niwroseiciatreg. Fel rhan o dîm amlddisgyblaethol ar y safle, byddwch hefyd yn gweithio gyda chydweithwyr ar draws y gwasanaeth i gefnogi’r gwaith o roi dulliau rheoli ar waith a gwella sgiliau’r gweithlu yn ôl yr angen.


Byddwch yn rhan o wasanaeth Therapi Iaith a Lleferydd ehangach sy’n gweithredu ar draws y cwmni, ac felly byddwch yn cael cyfle i gyfrannu at brosiectau ar raddfa fawr. Byddwch yn cael goruchwyliaeth o ansawdd uchel a bydd digonedd o gyfleoedd DPP i’ch cefnogi.


Rydym yn chwilio am Therapydd Iaith a Lleferydd sydd yn meddu ar y canlynol:

  • Gradd/diploma ôl-radd (neu gymhwyster cyfatebol) mewn Therapi Iaith a Lleferydd, wedi cofrestru â’r HCPC (Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal) ac yn aelod o’r RCSLT (Coleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd)
  • Cymhwysedd i asesu a rheoli anghenion EDS yn annibynnol (gellir rhoi hyfforddiant a chyfle i ddatblygu yn y maes hwn os oes angen)
  • Profiad ym maes niwroleg a / neu gyflyrau niwroddirywiol a gwybodaeth dda am Therapi Iaith a Lleferydd clinigol i ddangos hynny. Bydd unigolion â sgiliau trosglwyddadwy hefyd yn cael eu hystyried.
  • Dealltwriaeth o Gefnogi Ymddygiad Cadarnhaol gyda phwyslais ar gynllunio sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
  • Tystiolaeth o fod yn aelod da o dîm gydag awydd gwirioneddol i helpu eraill
  • Sgiliau cyfathrebu / rheoli amser rhagorol

Yn gyfnewid am hyn, gallwn gynnig:

  • Goruchwyliaeth Glinigol Ragorol, cyfleoedd DPP a chyfleoedd i ddatblygu sgiliau ar gyfer dyletswyddau clinigol ac anghlinigol.
  • Cyfarfodydd gwasanaeth rheolaidd a chyfarfodydd cymorth gan gymheiriaid gyda Therapyddion Iaith a Lleferydd.
  • Cyfle i roi eich stamp ar y pecyn cymorth
  • Hyfforddiant cynefino llawn
  • Aelodaeth am ddim o CEN
  • Cyfle i chwarae rhan weithredol yn y gwaith o ddatblygu gwasanaethau, mentrau Gwella Ansawdd a chyfleoedd ymchwil
  • Cynllun arian wedi’i ariannu gan y cwmni sy’n eich galluogi i hawlio gwerth hyd at £1000 y flwyddyn o fuddion, gan gynnwys Ffi siotherapi, Osteopathi, Optometreg, Deintyddiaeth, ymgynghoriadau arbenigol, sganiau a phresgripsiynau am ddim.
  • Pecyn Cymorth Iechyd Clyfar, gan gynnwys gwasanaethau meddyg teulu 24 awr
  • Gostyngiad yng nghost aelodaeth campfa yn ogystal â dosbarthiadau ffitrwydd am ddim gyda ClassPass, Rhaglenni Maeth ac Ymgynghoriadau Ffitrwydd
  • Gwobrau i weithwyr, cynllun buddiannau sy’n cynnwys gostyngiadau fel Perkbox Cygnet, Cerdyn Golau Glas, gostyngiadau’r GIG a llawer mwy
  • Cynllun pensiwn cyfrannol y cwmni
  • Cynllun Yswiriant Bywyd a delir gan y cwmni
  • Cynllun Ceir Trydan
  • Prydau bwyd am ddim a lle i barcio car am ddim yn ystod y shifft

Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus gael archwiliad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a darparu geirda, a bydd unrhyw gynnig yn amodol ar basio’r rhain yn llwyddiannus.


I gael trafodaeth anffurfiol am y swydd neu i gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Dominique St Clair Miller, Cyfarwyddwr Therapi Iaith a Lleferydd (Gofal Iechyd) ar 07885 476 384.


Ydych chi’n barod am gyfle newydd gwerth chweil? Gwnewch gais nawr.

Dyddiad cau: 1 mis

Dyddiad y cyfweliad: I'w gadarnhau

Cofiwch y gall y cyfnod ymgeisio ddod i ben cyn y dyddiad hwn os bydd nifer fawr o geisiadau’n dod i law.


What next?

If you care about making a difference – we want to talk to you.

Click the button to apply

How to Apply

Apply Online